• Home
    • The Team
  • Hafan
    • Y Tîm
  • Shop/ Siop
  • Contact
  • Cyswllt
  CROESO/WELCOME
  • Home
    • The Team
  • Hafan
    • Y Tîm
  • Shop/ Siop
  • Contact
  • Cyswllt
  • Shop/ Siop
  • >
  • Digital/Digidol
  • >
  • Adnodd Digidol - Adnodd Dysgu 1 (fersiwn Gymraeg - Welsh)

Adnodd Digidol - Adnodd Dysgu 1 (fersiwn Gymraeg - Welsh)

£19.99
£19.99
Unavailable
per item
Dyma adnodd digidol arbennig i ysgolion, meithrinfeydd a chylchoedd meithrin. Pwrpas yr adnodd yw cynnig syniadau ynglŷn â sut i ddatblygu sgiliau cerddorol ac ieithyddol plant y Blynyddoedd Cynnar. Bydd y syniadau o fewn yr adnodd yn galluogi arweinwyr ac athrawon i ddatblygu mwynhad a dealltwriaeth y plant o’r iaith Gymraeg a cherddoriaeth. Mae’r caneuon a ddefnyddir wedi eu trefnu i mewn i ganeuon llawn difyrrwch ac yn cynnwys geiriau syml sy’n ffordd hwylus o ddysgu a datblygu’r iaith Gymraeg. Mae’r adnodd yma yn cefnogi cerddoriaeth, fel rhan o’r Maes Dysgu ‘Datblygiad Creadigol’ sy’n rhan o Fframwaith y Cyfnod Sylfaen. 


Mae’r adnodd yma wedi ei rannu mewn i bedwar thema; ‘Fi fy hun’, ‘Y Tywydd’, ‘Anifeiliaid’ a ‘Teithio’. Mae’r gweithdai yn gyfuniad o ganeuon newydd a thraddodiadol, offerynnau a phropiau. Nodir pa draciau o’r CD sydd angen eu defnyddio ar gyfer pob gweithdy. Bydd fersiwn canu a chyfeiliant i gychwyn yna fersiwn cyfeiliant yn dilyn. 


Mae'r adnodd hwn yn cynnwys dogfen PDF y gellir ei lawrlwytho gyda chynlluniau gwersi, syniadau ar gyfer gweithgareddau, geiriau i'r caneuon ynghyd â lawrlwythiadau digidol o'r holl draciau. Darperir fersiynau lleisiol ac offerynnol o bob cân i ganiatáu rhyddid ichi addasu, dysgu a chael hwyl gyda'r gerddoriaeth.


*Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid digidol i gynnig y gwasanaeth orau posib, ond o ganlyniad i'r sefyllfa bresennol rydyn ni'n profi ambell i broblem gyda lawrlwytho'n syth i ddyfeisiadau symudol, yn enwedig dyfeisiadau iOS. Mae'r adnoddau yn gweithio orau pan maent yn cael ei lawrlwytho i gyfrifiadur neu cluniadur. Er hyn mae modd safio'r eitemau yn syth i Google Drive ar ddyfeisiadau symudol. Os rydych yn cael trafferth gyda'r lawrlwythiad cysylltwch yn syth. Diolch 
SKU:
  • Facebook
  • Twitter
  • Pinterest
  • Google+
Add to Cart




  • Home
    • The Team
  • Hafan
    • Y Tîm
  • Shop/ Siop
  • Contact
  • Cyswllt